Chwefror 2025
Ein gwaith diweddaraf, newyddion a digwyddiadau |
|
|
|
Neges gan y prif weithredwr |
|
Rwyf eisiau canolbwyntio ar ddau bwnc y mis yma. Y cyntaf yw’r un filiwn o bobl ifanc 16-24 oed heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Gall bod yn NEET pan yn ifanc gael effeithiau hirdymor ar ragolygon gyrfa, felly mae angen gostwng eu niferoedd. Diolch byth, mae’r Llywodraeth yn cynllunio Gwarant Ieuenctid yn cynnig help i ganfod swydd, lle hyfforddi neu brentisiaeth yn Lloegr (mae gan y gweinyddiaethau datganoledig gynigion tebyg) a nifer o gynlluniau blaengaredd (a rydym yn gweithio gyda rhai ohonynt) i brofi sut i’w weithredu. Maent hefyd wedi dweud eu bod eisiau gwyro’r system brentisiaeth yn fwy at bobl ifanc ar ôl i brentisiaethau ieuenctid yn Lloegr ostwng gan draean ers 2017. Ond mae angen i ni wneud mwy, a hynny’n gyflym. Dengys ein hymchwil mai dim ond un mewn pedwar o bobl ifanc NEET sydd ar fudd-daliadau cysylltiedig â diweithdra. Rydym angen gweithredu mwy cydgysylltiedig i gynnwys y tri mewn pedwar arall, a chynnig mwy cydlynol ar eu cyfer. Ond mae hefyd angen i ni ei gwneud yn rhwyddach i gyflogwyr gymryd pobl ifanc, yng nghyd-destun cynnydd mewn costau cyflogwyr ac economi sy’n aros yn ei hunfan. Mae hynny’n haws dweud na gwneud. Ond mae angen i ni droi addewidion a chynlluniau peilot yn ddiwygio a chanlyniadau a hynny yn gyflym. Yn ail, newid gyrfa a hyfforddiant yn y gwaith. Nid yw’n chwyldroadol dweud y bydd yn rhaid i bobl ailhyfforddi a diweddaru eu sgiliau yn amlach yn ystod bywydau gwaith hirach. Eto mae llai o bobl yn newid gyrfa na chyn yr argyfwng ariannol byd-eang ac mae cyflogwyr yn buddsoddi 36% yn llai mewn hyfforddi pob gweithiwr nag oeddent 20 mlynedd yn ôl. Mae gennym ymchwil ar y gweill ar sut i newid y diwethaf yma. Tra’ch bod yn aros am hynny, ymunwch â ni am ddwy weminar. Un gyda’n cyfeillion yn NFER i drafod ailsgilio, ac un arall gyda Multiverse sydd yn garedig wedi cefnogi ein hymchwil yn dangos fod hyfforddiant yn hybu cyflogau a dyrchafiadau, gyda'r enillion mwyaf ar gyfer y rhai ar y cyflogau isaf. |
|
Stephen Evans
Prif Weithredwr, Sefydliad Dysgu a Gwaith
|
|
|
|
Canmol rhaglen beilot JobsPlus yn y Senedd fel enghraifft o raglen cymorth cyflogaeth sy’n dod â newid go iawn. Roeddem yn falch clywed sôn am raglen beilot JobsPlus, y mae Dysgu a Gwaith yn ei harwain a’i rheoli, mewn dadl ar raglenni cymorth cyflogaeth seiliedig ar le ddydd Mawrth 10 Chwefror. Mae JobsPlus yn fodel cymorth cyflogaeth cymunedol a gaiff ei beilota gan gymdeithasau tai a’u preswylwyr mewn deg safle ledled Lloegr. Caiff y rhaglen ei hariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’ Sefydliad Youth Futures. Yn ystod y ddadl, dywedodd Patrick Hurley AS fod tystiolaeth gynnar yn dangos fod pobl ifanc yn gwneud mwy na dim ond symud i waith, ond eu bod hefyd yn gwella eu hyder, llesiant, parodrwydd a chydnerthedd – y pethau sy’n wir yn gwneud cyflogaeth yn gynaliadwy ar gyfer pobl. Dywedodd Amanda Hack AS fod JobsPlus yn gweithio oherwydd yr ymrwymiad hwnnw ar y cyd a’r cymorth wedi ei dargedu a gaiff eu gynnig a chanmolodd y Fonesig Diana Johnson DBE, Gweinidog Cyflogaeth, y rhaglen fel enghraifft o bwysigrwydd cyflenwi cymorth mewn safleoedd cyfarwydd. Mae Dysgu a Gwaith yn arwain y bartneriaeth rhwng landlordiaid cymdeithasol i gyflwyno’r cynllun peilot gyda chefnogaeth gan Cymunedau sy’n Gweithio a’n partneriaid ymchwil y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth a MDRC i alluogi profi’r model. Hyd yma mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn rhaglen JobsPlus a dros 300 o bobl wedi symud i waith, gyda mwy ar y llwybr i gyflogaeth. Mwy o wybodaeth.
Galw am dystiolaeth: Dysgu a Gwaith ac IES yn edrych am weithredu a gwerthusiadau lleol o raglenni dysgu a gwaith. Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, mewn partneriaeth gyda’r Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth (IES), yn ddiweddar wedi lansio’r Rhaglen Tystiolaeth Marchnad Lafur a gomisiynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd y rhaglen yn cyflenwi adolygiadau tystiolaeth ac adnoddau ymarferol ar faterion allweddol y farchnad lafur i roi gwybodaeth i wneuthurwyr polisi lleol. Rydym yn edrych am werthusiadau a gyhoeddwyd neu heb eu cyhoeddi o raglenni marchnad lafur actif gyda ffocws ar waith ac iechyd a gafodd eu dylunio, gweithredu a gwerthuso’n llwyddiannus ar y lefel leol. Ar gyfer yr adolygiad hwn, mae angen i'r rhain fod yn rhaglenni sydd:
- Wedi eu cyflenwi ar lefel leol neu ranbarthol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a/neu Ogledd Iwerddon rhwng 2017 a 2025
- Â ffocws ar iechyd mewn cefnogi pobl i ganfod, aros neu sicrhau cynnydd mewn gwaith
- Ag o leiaf elfen o gyllid llywodraeth (cenedlaethol neu leol)
- Wedi eu gwerthuso yn rhanbarthol neu yn lleol (yn hytrach na gan lywodraeth ganolog neu lywodraeth leol)
Cliciwch yma i ganfod mwy ac i gyflwyno tystiolaeth.
Mynd i’r afael â rhwystrau dysgu yn Hull. Mae ein ffeithlun newydd yn rhoi diweddariad ar gynnydd ar bartneriaeth seiliedig ar le Dysgu a Gwaith ac Ufi Voctech Trust yn Hull. Mae partneriaeth ‘Hey Hull’ yn hyrwyddo gwerth dysgu ac yn mynd i’r afael â’r rhwystrau dysgu sy’n wynebu oedolion drwy raglen o 40 cymhwyster micro ar-lein, profiadau dysgu digidol trochi a chyfleoedd byd go iawn a gynigir gan Hey! Volunteering. Mae canfyddiadau ein gwerthusiad hyd yma yn dangos pwysigrwydd cydweithio ar lawr gwlad a defnyddio partneriaid cymunedol i greu llwybrau cynhwysol i ddysgu a gwirfoddoli.
Cyflwynwch enwebiad ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion y West Midlands! Rydym yn falch i gefnogi Gwobrau Addysg Oedolion y West Midlands am y bedwaredd blwyddyn yn olynol. Mae’r enwebiadau ar agor a gwahoddir preswylwyr yr ardal i enwebu unigolion, tiwtoriaid, darparwyr dysgu a chyflogwyr a all ysbrydoli neu gefnogi eraill i gymryd rhan mewn addysg oedolion. Mae gennych tan 20 Mawrth i gyflwyno enwebiad a chyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo swyddogol ym mis Mehefin.
Mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn edrych am addysgwyr a chynlluniau cymunedol ar draws Cymru sy’n ymgorffori grym trawsnewidiol addysg. Dymunwn ddangos sut mae dysgu gydol oes yn creu llwybrau clir i gyflogaeth, iechyd a chysylltiad cymdeithasol. Helpwch ni i gydnabod y llwyddiannau hyn drwy gyflwyno eich enwebiad erbyn 17 Ebrill 2026.
Dysgu a Gwaith ynghyd ag ERSA a Serco yn cynnal cyfarfod bwrdd crwn yn Stadiwm Principality, Caerdydd i drafod Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru. Roedd yn wych medru cydweithio yn y digwyddiad hwn ar gamau y gellir eu rhoi ar waith o’n hadroddiad yn cyflwyno cynllun uchelgeisiol, gan alw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi 60,000 o bobl i waith. Byddai gwneud i hyn ddigwydd yn cau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig a hefyd yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb dwfn sy’n wynebu pobl anabl, menywod a grwpiau lleiafrif ethnig.
Dysgu a Gwaith yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2026. Roedd hi’n Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yr wythnos ddiwethaf, gyda thema ‘Sgiliau Bywyd’. Roeddem yn falch i hyrwyddo stori Maddison Walker, un o enillwyr ein gwobrau Get the Nation Learning a ragorodd ar Brentisiaeth Uwch Arweinydd. Dywedodd i hynny newid ei bywyd a’i harwain at ddod yn berchennog busnes. Nod ymgyrch Get the Nation Learning yw cyflwyno ac ennill yr achos dros ddysgu gydol oes ac mae ganddi yn awr dros 270 o gefnogwyr. Mwy o wybodaeth. |
|
“Mae ein ffyniant a llwyddiant busnes yn y dyfodol wedi ei seilio ar sgiliau. Mae’n amser i bawb ohonom godi ein safon.” Wrth ysgrifennu ar gyfer erthygl Spotlight on Policy y New Statesman mae Stephen Evans, prif weithredwr Dysgu a Gwaith yn esbonio pedwar peth sydd eu hangen i gael cyflogwyr i ymgysylltu’n well gyda diwygio sgiliau: twf yn yr economi a pholisi sefydlog, mwy o ffyrdd i gyflogwyr gydweithio ar hyfforddiant, y sector cyhoeddus i arwain y ffordd a gwell cymhellion ar gyfer cyflogwyr.
"Gallai dod ag addysgu ansawdd uchel ar sgiliau hanfodol, cymorth cyflogaeth ac ymgysylltu â chyflogwyr ynghyd newid y gêm ar gyfer y rhai sy’n edrych am waith.” Yn FE Week mae Alex Stevenson, Dirprwy Gyfarwyddwr Dysgu a Gwaith, yn ymchwilio sut mai sgiliau hanfodol yw’r prawf sydd ar goll yn y papur gwyn ar sgiliau. Mae’n galw am ymdrech gadarn ar draws y wladwriaeth, cyflogwyr ac mewn cymunedau i ddynodi pobl a all gael budd o wella sgiliau hanfodol a rhoi’r cymorth iddynt y maent ei angen. |
|
Mae’r Confensiwn Cyflogaeth a Sgiliau yn dychwelyd i Fanceinion! Ymunwch â ni ddydd Iau 2 Gorffennaf wrth i ni ymchwilio sut i dyfu cyfle a datgloi potensial mewn gweithlu newidiol. Eleni byddwn yn edrych yn ddyfnach i’r datblygiadau diweddaraf mewn cyflogaeth ieuenctid a sut y gallwn baratoi’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen mewn oes o dechnoleg sy’n datblygu’n gyflym. Cofrestrwch i ymuno â ni. Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi neu arddangos yn y confensiwn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â events@learningandwork.org.uk os gwelwch yn dda.
Sut y gall y system sgiliau wella wrth ateb anghenion pobl mewn mathau o swyddi sydd mewn risg? Ymunwch â’n gweminar gyda NFER i gael yr ateb. Gallai hyd at dair miliwn o swyddi yn y Deyrnas Unedig mewn mathau o swyddi sy’n crebachu ddiflannu’n llwyr erbyn 2035, i raddau helaeth oherwydd deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio. Mae’n bwysicach nag erioed fod gweithwyr mewn mathau o swyddi sy’n crebachu yn cael eu cefnogi gan y system addysg oedolion a sgiliau i uwchsgilio, ailsgilio ac addasu i newidiadau yn yr economi. Fodd bynnag, mae buddsoddiad a chyfranogiad mewn dysgu gydol oes wedi gostwng gydag anghydraddoldeb mawr ym mhwy sy’n cael mynediad i ddysgu. Bydd ein gweminar a gynhelir ddydd Mawrth 24 Chwefror mewn partneriaeth â NFER yn trafod sut y gallwn wella’r system. Cofrestrwch nawr.
Ymunwch â ni ddydd Mercher 11 Mawrth i ymchwilio sut y gall hyfforddiant mewn gwaith roi hwb i dâl a gyrfaoedd pobl. Mae gostyngiad yn y buddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant yn dal llawer gormod mewn troell gwae o sgiliau a thâl is. Mae ein hadroddiad ‘No train, no gain’, a gomisiynwyd gan Multiverse, yn dangos pwysigrwydd hyfforddiant i symudedd swyddi a mynd i swyddi sgiliau uwch lle mae galw yn cynyddu. Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar i glywed gan yr arbenigwyr. |
|
Un diwrnod ar ôl i wneud cais am swydd Dirprwy Gyfarwyddwr yn Dysgu a Gwaith. Rydym yn edrych am Ddirprwy Gyfarwyddwr, Polisi ac Ymchwil (Gwaith Gwell a Chynnydd) newydd i’n helpu ni a’n partneriaid i sicrhau gwybodaeth sy’n galluogi mwy o bobl i symud i a sicrhau cynnydd drwy waith gwell. I fod yn addas ar gyfer y swydd hon, bydd gennych hanes o lwyddiant mewn cwmpasu a sicrhau cyllid ar gyfer ymchwil a gweithgaredd dylanwadu, gydag annibyniaeth sylweddol i arwain eich rhaglen eich hun yn Dysgu a Gwaith. Cewch eich cefnogi gan ymchwilwyr a rheolwyr ymroddedig y byddwch yn eu hannog, arwain a’u datblygu – ynghyd â grŵp cymheiriaid o Ddirprwy Gyfarwyddwyr yn gweithio ar draws pileri allweddol eraill. Darllenwch fwy o wybodaeth a gwneud cais erbyn yfory, 20 Chwefror.
…a’n swydd Pennaeth Ymchwil! Bydd y swydd hon yn ehangu ein galluedd i ennill a chyflenwi ymchwil gwerthuso ac ansoddol, gan gryfhau ein galluedd methodolegol. Mae gennym feddwl agored am ystyr hyn – ond rydym eisiau pobl a all fynd tu hwnt i werthusiadau proses arferol a dulliau ansoddol sylfaenol. Darllenwch fwy o wybodaeth a gwneud cais erbyn yfory, 20 Chwefror. |
|
Dysgu a Gwaith yn y wasg a’r cyfryngau |
|
Sefydliad Dysgu a Gwaith, Unit 1, 22 St Martins House, 7 Peacock lane, Caerlŷr/Leicester, LE1 5PZ, y Deyrnas Unedig |
|
|
|
|
|